Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 6 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.30 - 13.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mike Hedges Alun Ffred Jones Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Robert Oxley, Cynghrair y Trethdalwyr |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Gwyn Price yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
2.1 Cyflog Uwch-reolwyr: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
2.2 Cyflog Uwch-reolwyr: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (21 Chwefror 2014)
2.3 Cyflog Uwch-reolwyr: Llythyr gan David Sissling (26 Chwefror 2014)
2.4 Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (12 Chwefror 2014)
2.5 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llythyr gan yr Athro Jean White (19 Chwefror 2014)
3 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru
3.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a'i nodi.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion.
3.3 Nododd y Pwyllgor fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnig paratoi memorandwm ar y cynnydd a wnaed o ran lleihau'r diffyg ariannol ar gyfer hawliadau ac ar lansiad y fframwaith diwygiedig yn yr hydref. Wedyn, bydd yn ystyried cynnal diweddariad i'r ymchwiliad ai peidio.
4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru
4.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'i nodi.
4.2 Roedd y Pwyllgor yn cytuno bod angen mwy o eglurhad ynghylch rhai o ymatebion y Llywodraeth a chytunodd i'w codi gyda'r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant.
4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am bapur briffio ar drefniadau llywodraethu o fewn GIG Cymru a hefyd ar wasanaethau iechyd arbenigol. Cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru i'w darparu.
5 Cyflog Uwch-reolwyr: Sesiwn dystiolaeth 4
5.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Robert Oxley o Gynghrair y Trethdalwyr ar Gyflog Uwch-Reolwyr.
5.2 Cytunodd Robert Oxley i ddarparu copi o adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar y premiymau o ran cyflog yn y sector cyhoeddus a hefyd yr erthygl o'r Local Government Chronicle y cyfeiriodd ati.
5.3 Yn dilyn y sesiwn, gofynnodd y Pwyllgor iddo am gyfeiriad at y sail ar gyfer ei honiadau ynghylch cyfran y bobl sy'n ennill rhwng £100,000 a £150,000 a mwy na £150,000 yng Nghymru.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
6.1 Cytunwyd ar y cynnig.
7 Cyflog Uwch-reolwyr: Trafod y dystiolaeth
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a nodi y byddai'n dychwelyd at y mater ar 3 Ebrill.
7.2 Gofynnodd y Pwyllgor i'r Clercod gysylltu â Grŵp Hay i gael manylion ynghylch pryd cafodd tâl is ei awgrymu ar gyfer uwch swydd ac unrhyw enghreifftiau o arfer da o ran cyflog sy'n gysylltiedig â pherfformiad.
8 Trafod rhaglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru
8.1 Cafwyd cyflwyniad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y gwaith presennol a'r gwaith i ddod yn rhaglen Swyddfa Archwilio Cymru.
8.2 Trafododd y Pwyllgor y rhaglen awgrymedig a gwneud nifer o awgrymiadau a fydd wedi'u cynnwys yn y papur terfynol.
9 Gofal heb ei drefnu: Trafod yr adroddiad drafft
9.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, trafododd yr Aelodau ran o'r adroddiad drafft; bydd yn dychwelyd at yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol.